Jane MaryROBERTSDymuna teulu'r diweddar Jane Roberts gynt o Tai Cryddion, Llangwnnadl, Berwyn Trefor a Bryn Meddyg, Llanaelhaearn, ddiolch o galon am bob arwydd o gydymdeimlad a charedigrwydd a ddangoswyd tuag atynt yn eu profedigaeth o golli mam, nain a hen-nain annwyl iawn. Hefyd am y rhoddion hael tuag at Staff Bryn Meddyg. Diolch arbennig i Mr Donald Roberts am wasanaethu, Gwenda Roberts yr organyddes ac i Richard O Jones, Tudweiliog a Geraint Parry, Gallt Beran am y trefniadau trylwyr a gofalus ar ddydd yr angladd.
Keep me informed of updates